Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Hydref 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(154)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) 

 

NDM5323 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod gwerth cyfartal addysg alwedigaethol ac academaidd;

 

2. Yn credu bod economi ffyniannus yn cael budd o fyfyrwyr â sgiliau cynhwysfawr; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i gynllunio cwricwlwm galwedigaethol sy'n annog cydraddoldeb ag addysg academaidd yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Glymblaid y DU wedi creu 1.2 miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010, tra bo nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng bron i 30% rhwng 2006 a 2012.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu cytundeb cyllideb Plaid Cymru i greu dros 5,500 o brentisiaethau ac, yn benodol, dros 2,500 o brentisiaethau uwch.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 3, dileu ‘cwricwlwm galwedigaethol sy’n annog cydraddoldeb’ ac yn lle hynny, rhoi:

 

‘strategaeth sgiliau sy’n annog cydraddoldeb o ran parch a chyfle’

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau a goresgyn y rhwystrau ymarferol a chanfyddiadol sy’n atal pobl ifanc rhag chwilio am raglen brentisiaeth a gwneud cais amdani yng Nghymru.

</AI3>

<AI4>

4 Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;

 

2. Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i fygythiadau i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;

 

3. Yn nodi pwysigrwydd y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru; a

 

b) ystyried cynnig Plaid Cymru ar gyfer datganoli gwasanaethau post er mwyn diogelu gwasanaeth cyffredinol a fforddiadwy.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1) Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol.

 

2) Yn cydnabod:

 

a) y bydd preifateiddio yn diogelu’r gwasanaeth cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian yn yr un modd â'i gystadleuwyr, ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio i’r Post Brenhinol; a

 

b) y bydd gan y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i bob cyfeiriad, boed mewn ardal drefol neu wledig, o dan ofynion sylfaenol y Gwasanaeth Cyffredinol.

 

3) Yn cydnabod pa mor bwysig yw’r Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r Post ar werth, ac na fydd cynllun i gau Swyddfeydd Post o dan Lywodraeth bresennol y DU. 

 

4) Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.

 

5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileu “Yn condemnio” a rhoi “Yn nodi” yn ei le. 

 

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn rhannu pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol. 

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau Post 2011.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Post 2011 ar gael drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/5/contents

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 6 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

‘ac nad yw’r bwriad i breifateiddio yn cynnwys Swyddfa’r Post.’

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi ymdrechion niferus y Blaid Lafur i breifateiddio’r Post Brenhinol hyd at 2009 a'r rhaglen i gau Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009;

 

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu’r ffaith nad oes unrhyw swyddfeydd post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Glymblaid y DU.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 9 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu is-bwynt 4b.

 

[Os derbynnir gwelliant 1 neu cynigir gwelliant 9, bydd gwelliant 10 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu is-bwynt 4(b).

</AI4>

<AI5>

Cyfnod Pleidleisio

</AI5>

<AI6>

5 Dadl Fer (30 munud) 

 

NDM5320 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Dewisiadau Cadarnhaol – rhoi'r sgiliau a'r profiad i bobl ifanc ddatblygu gyrfa.

</AI6>

<AI7>

6 Dadl Fer - Ail-drefnwyd ers 2 Hydref 2013 (30 munud) 

 

NDM5322 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gwasanaethau Bws Gwledig yng Nghymru – Ar y Ffordd i Nunlle

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 15 Hydref 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>